Apêl gan gynghorydd y Blaid i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i atal popeth am ddim yng Nghaerffili

10/11/2017

Mae cynghorydd Plaid Cymru, Steve Skivens wedi annog Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i atal Caerffili rhag cael ei orlwytho â datblygiadau.

 Mae’r cynghorydd dros Benyrheol, Trecenydd ac Ene’rglyn wedi ysgrifennu at Sophie Howe yn amlygu gofid a bygythiad y datblygiadau a gytunwyd gan Lywodraeth Cymru yn groes i ddymuniadau Cyngor Caerffili.

 Yn ei lythyr, mae’n dweud: “Rydw i’n pryderu’n gynyddol am ddatblygiadau yn fy ardal ac ar draws y fwrdeistref sirol. Yn benodol, ym masn tref Caerffili.

 “Fel arfer rheolir y defnydd o dir, datblygiadau ac ystyriaethau amgylcheddol gan y Cynllun Datblygu Lleol angenrheidiol (LDP).  Fodd bynnag, mae gennym sefyllfa ar hyn o bryd yn yr ardal hon lle mai bwriad cyfreithiol,  sydd wedi’i gefnogi gan swyddogion yr awdurdod a chynghorwyr a etholwyd yn ddemocrataidd, wedi ei wthio o’r neilltu.

 “Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi datblygiadau a wrthodwyd gan GBSC ei brosesau a’i bwyllgor cynllunio.  Rhoddwyd caniatâd i safleoedd eraill sydd ddim hyd yn oed yn yr LDP.

 “Mae tref Caerffili wedi bod yn dioddef ers blynyddoedd lawer o dyfiant cynyddol mewn tagfeydd trafnidiaeth, lle mae galw gormodol ar isadeiledd a gwasanaethau hynafol. Mae’r effaith i lawer yn amlwg yn ddyddiol. Felly cadwyd llygad barcud a rheolaeth ar ganiatâd cynllunio. Eto mae’n ymddangos fod rhyddid di-ben-draw ar roi caniatâd cynllunio, er gwaethaf CBSC.  Gwelir ymadawiad o weithdrefnau democrataidd a gydlynir gan weinidogion Llywodraeth Cymru a datblygwyr. 

 “Tynnwyd yr LDP cyfredol yn ôl oherwydd gwrthwynebiad, gyda hyd yn oed Llywodraeth Cymru yn gweld y cynllun yn orfrwdfrydig i’r ardal.  A nawr gwelwn safleoedd gwyrdd yn diflannu, nad oedd hyd yn oed o fewn yr LDP. Roedd yr LDP blaenorol, a gafodd ei dderbyn, yn fwriadol yn targedu safleoedd caeau llwydion a safleoedd mewnlenwad ar gyfer datblygiadau.

 Ychwanegodd: “Mae datblygwyr sydd, yn unol â’u natur, yn bennaf dros elw ac yn ymwneud â masnach, yn gweld caeau gwyrdd fel mannau proffidiol sy’n haws eu datblygu. Maent yn brysur yn chwilio safleoedd yn agos i Gaerdydd, coridor yr M4 a chysylltiadau eraill.

 Mae’r trefoliad cynyddol hyn nawr yn newid ffordd o fyw poblogaeth frodorol yr ardal, ond hefyd y bobol sy’n cael eu denu i’r ardal. “