Y Blaid yn galw am ymchwiliad i ddifrod i glawdd hynafol uwchben Caerffili

01/12/2017

Mae cynghorydd Plaid Cymru, Steve Skivens, wedi annog CADW i ymchwilio i mewn i fygythiad i heneb uwchben Caerffili

Mae’r cynghorydd dros Benyrheol, Trecenydd ac Ene’rglyn wedi ysgrifennu at gorff henebion Cymru yn gofyn am asesiad o risg er mwyn gwarchod y clawdd hanesyddol.

Gosododd y Cynghorydd Skivens ystod o fygythiadau i’r clawdd ar Gomin Eglwysilan mewn llythyr at CADW.

Dywedodd: “Rydw i’n byw yn Ene’rglyn ac wedi mwynhau gwneud defnydd o Gomin Penyrheol ac Eglwysilan a’r llwybrau cerdded ers blynyddoedd, yn blentyn ac yn oedolyn. Rydw i wedi gwerthfawrogi statws yr hen glawdd a’i gysylltiadau yn ôl i’r oesoedd canol.

“Allwch chi gynorthwyo â’r dirywiad hirymaros ar y Comin uwchben Penyrheol? Cododd nifer o faterion gyda difrod a newidiadau i’r comin sydd bellach yn difrodi’r hen glawdd.  Mae’r rhain yn cynnwys gweithredu busnes heb y caniatâd priodol, ceisiadau cynllunio ail adroddus, datblygu a thipio ar raddfa helaeth ynghyd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Cyfeiriwyd hyn eisoes i Gyngor Cymunedol Penyrheol, Trecenydd ac Ene’rglyn. Fodd bynnag,  mae’r difrodi a’r atal mynediad i’r comin nawr yn achosi difrod i’r clawdd.

“Cefais wybod bod beiciau modur yn rhedeg ar draws y comin a’r clawdd a, hefyd, offer symud pridd wedi’u defnyddio yn agos i’r clawdd gan greu difrod. Rhwystrir mynediad i’r comin a’r llwybrau cerdded a’r clawdd ei hun yn rheolaidd gan eu cuddio gan ragfuriau a osodwyd yno.

“Cyfeiriwyd nifer o faterion i’r awdurdodau priodol a bu rhywfaint o weithredu yn effeithiol, fodd bynnag, mae llanw’r chwalfa a’r difrodi yn parhau yn ddi-rwystr.

Mae angen gwarchod y clawdd, a dylid ei gynnal a’i gadw fel carreg filltir a chyswllt pwysig i hanes yr ardal.  Nid yn unig i’r genhedlaeth bresennol ond hefyd i nifer yn y dyfodol.

Ga i ofyn bod un o’ch gwardeiniaid cofebion maes yn ymweld â’r ardal i asesu’r risg i’r hen gofeb hon?” ychwanegodd y Cynghorydd Skivens.