Grŵp y Blaid yn gosod allan eu gwrthwynebiad i Lywodraeth Cymru ar ad-drefnu cynghorau

13/06/2018

Mae arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar gyngor Caerffili, Colin Mann, wedi manylu ar eu gwrthwynebiad i gynigion ad-drefnu llywodraeth leol a gynigir gan Lywodraeth Cymru.

 Dywedodd y Cynghorydd Colin Mann mai ychydig sydd gan Gaerffili â Dinas Casnewydd yn gyffredin sef yr awdurdod yr awgrymir y dylid cyfuno â hi.

 Dywed ymateb y Blaid i Bapur Ymgynghorol Llywodraeth Leol: “Gaf i ddweud fod grŵp y Blaid yn cefnogi’n llawn yr ymateb y byddwch wedi’i dderbyn gan GBS Caerffili.  Ystyriwyd yr ymateb gan y cyngor llawn ar 5.6.18 a derbyniodd gefnogaeth lawn yr aelodau etholedig oedd yn bresennol. A dweud y gwir, ond un cynghorydd (annibynnol) bleidleisiodd yn erbyn y cynnig.

 “Y cynnig hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres gan Lywodraeth Cymru wrth iddynt edrych ar amryw gynigion ad-drefnu. A dweud y gwir, mae’n ymddangos y gwneir cynigion gydag undonedd  rheolaidd. Pam na chawn ymgynghoriad gwirioneddol gan ofyn  i’r bobol sydd yn cael eu had-drefnu, yn hytrach na cheisio gwthio atebion oddi fry?

 “Bydden i’n dadlau nad oes lawer o obaith o fudd ariannol yn codi o’r cynigion hyn. Ble mae’r dystiolaeth fod y gost ariannol, ynghyd â’r aflonyddwch, y byddai’r ad-drefnu yn achosi, yn cael ei ad-dalu o fewn cyfnod rhesymol, os o gwbl?  Beth yw’r pwynt o wastraffu arian ar ad-drefnu dibwrpas yn yr oes hon o gynni pan fod pawb yn straffaglu am adnoddau digonol?

 Ddylwn i ddim gorfod eich atgoffa i gynghorau oedd wedi cynnig uno mewn ymateb i gynigion blaenorol wedi gweld gwrthod eu cynigion.

 Â Chyfeirio at y cynigon diweddaraf gaf i ddweud nad oes unrhyw debygrwydd cymunedol rhwng CBS Caerffili a Chasnewydd. I roi ond un enghraifft, awdurdod trefol yw Casnewydd yn bennaf, gydag uchelgais fel dinas newydd sy’n ymsefyldu.

 “Mae gan Gasnewydd leiafrif ethnig sylweddol, yn wahanol i GBSC. Mae Caerffili yn bennaf yn awdurdod gwledig gyda thua 50 o sefydliadau bach yn bennaf, gan gynnwys nifer o gymunedau a fu’n gymunedau glofaol. Mae’r cymunedau hyn wedi - ac yn dal - i straffaglu gyda heriau sefyllfa ôl-ddiwydiannol. Dydy diwylliant a chefndir y ddwy ardal ddim yn edrych fel petai’n mynd i fod yn gymysgfa dda.

 “Caerffili yw un o gynghorau mwyaf Cymru ac yn sicr o faint i allu darparu mwyafrif y gwasanaethau o’i adnoddau ei hun. Lle nad yw hi felly, mae’r cyngor yn barod i gyd-weithio gydag awdurdodau eraill fel y bo’n briodol.  Mae hyn eisoes wedi digwydd mewn sawl achos.

“Pa faint o ffydd allwn ni gael yng nghynigion Llywodraeth Cymru? Dydy’r Llywodraeth ddim yn  union wedi ennill clod gyda’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Cafodd llawer o’r gwaith da a’r cyd-weithio a wnaed o’r blaen gan lywodraeth leol, er enghraifft, y Consortiwm Caffael Cymraeg, wedi ei aflonyddu gan y cynigion hyn. Gwelwn bellach nawr fod y gwasanaeth cenedlaethol a sefydlwyd ar gost sylweddol i’r trethdalwyr ddim yn gwneud ei waith!

“Dydw i ddim wedi ymateb i’ch holiadur gan fod nifer o dybiaethau sy’n mynd â’r rhai sy’n ymateb ar hyd llwybr dydw i ddim am ei gymryd.

“I gau pen y mwdwl, gaf i ddweud fy mod i a nifer o ‘nghydweithwyr yr ydw i wedi siarad â nhw yn digio wrth yr amser a gymerwyd i ymateb i’r cynigion hyn, cynigion y gwêl llawer yn ddim byd ond ffwlbri.

 “Efallai y byddai’n well petai Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar wella ei hun a gadael i Lywodraeth Leol gyflawni’r gwasanaethu sydd eu hangen ar bobol Cymru, er fod rhaid gwneud hynny gydag adnoddau sy’n parhau i edwino.”