Codwch dyrbinau gwynt, paneli solar i leihau biliau ynni, yw anogaeth cynghorydd Plaid Cymru i’r cyngor

02/11/2018

Councillor Rob Gough

Mae cynghorydd Plaid Cymru, Robert Gough, wedi galw ar i gyngor Caerffili edrych ar godi tyrbinau gwynt ei hunan ac i osod paneli solar i leihau costau cynyddol biliau trydan.

Gwaneth Rob Gough, sy’n cynrychioli Llanbradach, yr apêl yn ystod trafodaethau  ar gynigion ar gyfer arbed egni a goleuadau yn y dyfodol ar bwyllgor craffu adfywiad  y cyngor.

Dywedodd y cynghorydd Gough: “Dylai’r cyngor edrych yn rhagweithiol ar generadu ei drydan ei hunan drwy godi tyrbinau gwynt ar dir y cyngor a gosod paneli solar ar adeiladau’r cyngor, er enghraifft, ysgolion, swyddfeydd ac unedau diwydiannol.

“Hefyd, mae cyfle i osod paneli solar ar dir y mae’r cyngor yn berchen arno a does dim rheswm pan na allai’r cyngor generadu'r rhan fwyaf, os nad y cyfan, o’i drydan.

“Mae ein swyddogion wedi rhybuddio bod y gost o ddarparu trydan yn mynd i gynyddu’n gyson dros y blynyddoedd nesaf. Fy marn i yw bydd y cyngor yn cael ei ddal ar bridwerth gan y cwmnïau pŵer  yn union yr un peth â thrigolion y fwrdeistref sirol. Byddai generadu’n trydan ein hunain ddim yn anodd ac mae’n rhywbeth y gellid ei wneud yn eithaf cyflym. Hefyd, mae arian ar gael drwy strategaeth Buddsoddi i Gynilo'r cyngor a fyddai’n ddelfrydol ar gyfer prosiect o’r fath.

Fe’m plesiwyd fod aelodau’r pwyllgor wedi cefnogi fy nghynigion. O weithredu’n gyflym, gallai hyn arbed llawer o arian i’r cyngor a byddai ddim galw ar yr awdurdod i edrych ar doriadau blynyddol i oleuadau strydoedd a gwasanaethau eraill.”

Hefyd, gosododd gerbron fod y pwyllgor yn cytuno â’r cynnig a fyddai’n golygu goleuo parthau yn rhannol rhwng hanner nos a 5.30 yb ac eithrio cyffyrdd a chanol y prif drefi gan drosi'r holl oleuadau i LED.

“Golyga’r penderfyniad hyn fod pyst yn aros yn eu hunfan. Mae opsiynau eraill yn galw am symud y pyst wedi cyfnod byr o amser. Petai amgylchiadau yn newid, byddai dim gobaith ail oleuo’r parthau lle symudwyd y pyst. Byddai hyn yn arwain at arbediad o £939,840 ac arbediad carbon o 2836 tunnell fetrig.