Arweinydd y Blaid yn Beirniadu Tafellu “Salami” Gwasanaethau Blaen Caerffili
31/12/2018
Mae cynlluniau cyllid cyngor Caerffili ar gyfer 2019-20 yn dangos diffyg gweledigaeth wirioneddol.
Rydym i gyd yn ymwybodol fod cyrff cyhoeddus yn wynebu toriadau refeniw oherwydd polisïau llymder llywodraeth y DG. Gwaethygwyd hyn yng Nghymru oherwydd y setliad gwael a roddwyd i gynghorau gan Lywodraeth Lafur Cymru.
Wrth adweithio i hyn mae Llafur yng Nghaerffili wedi troi at ‘dafellu salami’ y gwasanaethau er gwaethaf dweud, ar sawl achlysur, na fyddai hyn yn digwydd. Mae’r datganiad a ail adroddwyd lawer gwaith o “warchod ein gwasanaethau blaen” wedi profi’n ffals.
Gyda’r diffyg ariannu canolog yr unig ateb i gynnal gwasanaethau yw i’r cyngor generadu mwy o incwm i’w hun, y tu hwnt i’r ffynonellau arferol megis, taliadau ychwanegol ar gyfer hamdden, parcio ac ati. Mae llawer o enghreifftiau o fentrau gan gynghorau o amryw ymlyniadau gwleidyddol ond dim byd yn lleol.
Ynghyd â chydweithwyr cynigais, flynyddoedd yn ôl, bod y cyngor yn archwilio amryw ffyrdd o ddarparu gwasanaethau angenrheidiol e.e. drwy fentrau cymdeithasol.
Mae’r cyngor Llafur yn hytrach yn tynnu cefnogaeth yn ôl oddi wrth y sector wirfoddol sy’n aml yn darparu gwasanaethau ardderchog gwerth am arian wrth ddarparu gwasanaethau.
Mae hefyd enghreifftiau nodedig o feddwl cymysglyd. Mae polisi yn dal i fod mewn bodolaeth i hyrwyddo canol ein trefi - rhywbeth a ddechreuwyd gan y gweinyddiad Plaid Cymru flaenorol.
Felly pam mae cynigion ar gyfer nifer o bethau a fydd yn digalonni pobol rhag ymweld â chanol ein trefi? Sut mae pobol yn mynd i ymdopi heb doiledau cyhoeddus? Bydd codi mwy am fysiau yn eu gwneud yn llai hyfyw. Ar yr un pryd mae taliadau am barcio yn mynd i godi.
Mae’r heddlu dan bwysedd i ddarparu cylchwylio gan swyddogion mewn iwnifform. Bydd pobol yn teimlo llawer mwy diogel os daw'r Gwardeiniaid Diogelwch Cymunedol i ben.
Gyda llai o bobol yn mynd i’r dref bydd siopau lleol yn fwy bregus. Mae nifer o’r rhain eisoes dan bwysedd trwm oherwydd siopa ar-lein a’r aflonyddwch a grëwyd gan waith ar y ffordd ym Mhwllypant.
Bydd cymunedau yn gyffredin yn edrych yn llai deniadol os caiff cynnal a chadw pethau fel meinciau a rheiliau ei atal.
Mae digwyddiadau arbennig mewn nifer o gymunedau yn debyg o ddod i ben. Enghraifft nodedig o ddod i ben â gwasanaethau lein flaen yw’r cynnig i dorri un o’r gwasanaethau mae pobol yn teimlo sydd fwyaf gwerthfawr, Gwardeiniaid Diogelwch Cymunedol. Bu cynigion synhwyrol i gyfuno'r gwasanaeth hwn gyda gorfodaeth sifil parcio ond gwnaed i ffwrdd â’r syniad.
Mae gofyn i’r gweinyddiad Llafur i osod allan gynigion dychmygol ar gyfer dyfodol ein hardal, nid cytuno i doriadau di ben draw.
Colin Mann