Arweinydd y Blaid yn rhybuddio trethdalwyr y gellid gofyn iddynt dalu miloedd mwy mewn arian cyhoeddus oherwydd gwarth cyflogau uwch swyddogion

10/05/2019

Mae arweinydd Plaid Cymru ar gyngor Caerffili yn ofni y bydd gofyn i gynghorwyr y mis nesaf gytuno gwariant o filoedd yn fwy o arian cyhoeddus wrth i warth cyflogau uwch swyddogion lusgo ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Mann: “Mis Rhagfyr diwethaf cytunodd y cyngor awdurdodi gwariant o £242,000 arall ar y gwarth hwn, rhywbeth y gwnaeth Plaid Cymru wrthwynebu yn gryf.

“Ers hynny dydyn ni ddim wedi clywed dim byd, mae’r Person Dynodedig (DIP) eto i adrodd, er y dywedwyd wrthym ar y dechrau y byddai’r adroddiad yn barod erbyn diwedd y flwyddyn ddiwethaf. Newidiwyd y dyddiad wedyn i ddiwedd mis Mawrth 2019.

“Ar y 4ydd o Fehefin fydd y cyngor llawn nesaf, lle rwy’n ofni y bydd cais pellach ar gyfer mwy o arian am fod gweddill yr £242,000 ychwanegol yn rhedeg allan ddiwedd mis Gorffennaf. Allwn ni ddim caniatáu gwastraffu mwy o arian cyhoeddus.”

Mis Rhagfyr diwethaf, dywedodd y cyngor y byddai cost proses cyflogau uwch swyddogion a’r ymchwiliad yn cyrraedd tua £1,176,000 erbyn diwedd mis Gorffennaf yma. Mae ffigyrau a gafodd Plaid Cymru dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn datgelu y gwir gost sef bydd y cynnydd mewn cyflogau i’r swyddogion - a ddechreuodd y sgandal - wedi costio £2,178,813 arall i’r trethdalwyr hyd at ddiwedd mis Mawrth 2019, gan ddod â’r gost i dros £6.3miliwn.

Ychwanegodd y Cynghorydd Colin Mann: “Mae pobol yn holi fi a chynghorwyr Plaid Cymru eraill ynglŷn â’r hyn sydd yn digwydd ond rydym yn gyfan gwbl yn y tywyllwch. Dyw pobol ddim yn gallu credu fod y mater hwn yn parhau. Mae’r tawelwch yn fyddarol. Does dim byd i weld yn digwydd.

“Mae rhai aelodau’r cyhoedd yn dweud wrthyf nad ydynt yn deall pan nad yw’r cyngor yn dod â chytundeb y prif weithredwr i ben oherwydd mae e’n dal i fod ar gyflog llawn am aros adref.

“Mae eraill yn gofyn pam nad yw’r bobol a gytunodd i dalu’r codiadau cyflog i 21 o swyddogion yn atebol.

“Yr unig bobol sydd wedi elwa’n ariannol o’r gwarth hwn yw aelodau’r proffesiwn cyfreithiol, archwilwyr a’r prif gymeriadau. Y rhai sydd fwyaf ar eu colled, wrth gwrs, yw’r degau o filoedd o bobol sy’n talu treth y cyngor yn y fwrdeistref.”